Polisi bwcio a chanslo

Mae'n rhaid talu â siec.

Mae'n rhaid bwcio o leiaf 12 awr cyn dechrau'r gweithdy.

Rhaid i bawb dalu'n llawn cyn dechrau'r gweithdy.

Os byddwch yn bwcio 48 awr neu fwy ymlaen llaw, rhaid anfon eich siec at:

Gallu
Blwch SP 132
Caerfyrddin
SA31 9BB

Os byddwch yn canslo lai na 48 awr cyn dechrau'r gweithdy, ni fyddwch yn cael ad-daliad.

Os byddwch yn canslo fwy na 48 awr cyn dechrau'r gweithdy, byddwch yn cael ad-daliad ar yr amod nad yw Gallu wedi mynd i gostau.

Os bydd raid i Gallu ganslo gweithdy am nad oes digon o enwau, bydd y rhai sydd wedi talu'n cael ad-daliad llawn neu gallant ddewis gadael yr arian yn eu cyfrif i'w ddefnyddio ar gyfer gweithdai eraill eto.

PembrokshireCarmarthenshireSwanseaNeath Port Talbot Developing People in Tourism Request it hereCymraeg