'Gallu' yw’r Rhaglen Datblygu Pobl ar gyfer pob busnes twristiaeth yn Ne Orllewin Cymru.
Nod 'Gallu' yw cynorthwyo busnesau twristiaeth i ddiwallu unrhyw anghenion hyfforddi a datblygiad busnes a all fod ganddynt, a’u helpu i ddod o hyd i ateb i unrhyw her sydd ganddynt. Mae’r rhaglen yn uwchsgilio’r gweithlu, yn gwella ansawdd profiad yr ymwelydd ac yn yr hirdymor mae’n gobeithio gwneud y diwydiant twristiaeth yn y De Orllewin yn un mwy cystadleuol.
Mae Tîm HRD cryf Gallu yn cynorthwyo busnesau unigol i ganfod eu hanghenion hyfforddi a datblygu, ac mae’n gweithio gyda phob Cymdeithas Twristiaeth i annog busnesau i gysylltu â Gallu a buddsoddi mewn datblygiad staff trwy gymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi, gweithdai, seminarau a dyddiau agored.
Gall Gallu eich helpu gyda’ch holl anghenion hyfforddi un ai trwy hwyluso gweithdai neu trwy eich helpu i ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant sy’n cynnig yr union beth sydd eich angen arnoch.
Bydd tîm Gallu hefyd yn gweithio y tu ôl i’r llenni ar ran y sector twristiaeth, gan ddylanwadu ar bobl i sicrhau bod twristiaeth yn cael ei le haeddiannol ar eu Hagenda!
Os hoffech chi gael cymorth gydag unrhyw agwedd o’ch anghenion hyfforddi a datblygiad busnes, peidiwch ag oedi, cysylltwch â thîm Gallu heddiw i weld sut y gall eich helpu chi a’ch busnes.