Adborth
Diolch o galon am drefnu ymweliad Diwrnod Masnach ddoe â Dwr Ffynnon Princes Gate a Gwesty Plas Hyfryd.
Roedd yn ardderchog – diddorol iawn ac yn ysbrydoli dyn. Roedd yn rhoi darlun byw o ddau fusnes llwyddiannus sy’n datblygu’n barhaus ac sydd â strategaethau marchnata arbennig iawn.
Gymaint i gnoi cil drosto, ac i ddysgu oddi wrtho. Hoffwn i chi gyfleu fy niolch i bawb am eu croeso a'u lletygarwch.
Margaret Brace
Medialink
Profiad gwych! Roedd gweld yr arfordir o’r dwr yn fendigedig. Rwyf wedi arddangos y taflenni yn fy Ngwesty bychan ac wedi anfon gwesteion yno - diwrnod ardderchog - byddwn yn ei argymell yn gryf."
Pam Davies
Gwesty Oakfield
Hoffwn ddweud cymaint o gymorth a budd a gefais gan Gallu. Rwyf wedi cael gwybodaeth werthfawr o’r cyrsiau ac wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd a chysylltiadau busnes trwy’r diwrnodau rhwydweithio. Gobeithio y byddant yn cynnal llawer mwy i'r dyfodol.
Jane Boulden
Bordhwylio a Hwylio Gorllewin Cymru
Rhaid i mi eu llongyfarch am weithdy llawn gwybodaeth a drefnwyd yn arbennig o dda, ac roedd y cyflwynydd a ddewiswyd yn rhagorol. Roedd gan Jo fôr o brofiad a gwybodaeth, ac fe’m galluogodd i greu Datganiad Mynediad ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mewn iaith briodol ac o fewn terfynau Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Roedd y lleoliad yn braf ac yn gysurus, roeddwn yn teimlo’n gartrefol ar unwaith. Ardderchog!!
Yr wyf yn hynod ddiolchgar i Gallu am ddarparu hyn a sawl gwasanaeth arall.”
Clive V. Edwards
Rheolwr Cyfleusterau
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

