Hanes

Sefydlwyd y prosiect Anticipation ym 1999 fel rhan o gais Ewropeaidd, yn seiliedig ar lwyddiant Anticpation wrth ddenu busnesau i dderbyn hyfforddiant. Defnyddiwyd y model hefyd yng Ngheredigion a Phowys. Yn dilyn hyn a chan ddefnyddio templed rhanbarthol, sefydlwyd ac ariannwyd Anticipation gan arian ESF Amcan 1 a Phartneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru – yn Sir Gaerfyrddin, Bae Abertawe, gan ymgorffori Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Yr enw ar y prosiect olaf hwn oedd GALLU.

Sefydlwyd ‘Gallu’ ym mis Mehefin 2004 ac roedd yn Rhaglen Datblygu Pobl ar gyfer pob busnes twristiaeth bach a chanolig yn y De Orllewin. Datblygwyd y prosiect ymhellach i ateb y galw gan Gymdeithasau Twristiaeth ledled rhanbarth y De Orllewin.

Nod Gallu oedd uwchsgilio’r gweithlu yn y diwydiant twristiaeth, ei wneud yn fwy cystadleuol a gwella profiad yr ymwelydd.

Yn sgil prosiect Gallu, mae dros 1300 o unigolion wedi derbyn hyfforddiant byr a dwys sydd wedi’i anelu at swyddi penodol i wella’u sgiliau a hybu eu perfformiad yn y gwaith – ac mae oddeutu 580 o fusnesau wedi manteisio ar y cyfle. Roedd tîm Gallu’n cynnwys 2 aelod o staff llawn amser, 2 berson a oedd yn rhannu swydd ac un cynorthwyydd gweinyddol rhan amser. Roedd y tîm wedi ei leoli ac yn gweithio trwy’r 3 Cymdeithas Twristiaeth yn y De Orllewin, ac roedd yn cael ei reoli gan Fforwm Hyfforddi Twristiaeth Cymru. Roedd strwythur gweithredol Gallu’n un llwyddiannus dros ben ac mae hynny i’w weld yn nifer buddiolwyr y prosiect ac mae’n awr yn cael ei weld fel cynllun enghreifftiol ar gyfer Cymru gyfan.

Daeth cyfnod yr arian Ewropeaidd ar gyfer Gallu i ben ym mis Mawrth 2007 ac roedd hynny’n golygu bod yr arian ar gyfer Adnoddau Dynol mewn perygl. Roedd arianwyr cyfatebol gwreiddiol y prosiect, y Bartneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol, yn hapus iawn i roi’r arian hwn i barhau â’r gwaith. Mae hyn wedi arwain at dîm llai gyda nodau penodol i gyflawni Strategaeth Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol ar draws De Orllewin Cymru.

Sir Benfro Sir Caerfyrddin Abertawe Gastell Nedd/Port Talbot Datblygu pobl mewn Twristiateth Gofynnwch amdano yma English