Cynllun Cwsmer Dirgel Gofal

Gofal

Mae Cynllun Cwsmer Dirgel ‘Gofal’ yn fenter newydd a sefydlwyd gan Gallu, i helpu busnesau i ddatblygu gofal cwsmeriaid o fewn eu busnes, a’i wella.

Fe fydd yr Ymweliad Dirgel yn canolbwyntio ar y Gofal Cwsmeriaid yr ydych yn ei gynnig i’ch gwesteion ac yn edrych ar y gwasanaeth yr ydych chi a’ch staff yn ei gynnig.

Mae’r Ymweliad Dirgel yn costio £75, sy’n cynnwys yr ymweliad, adroddiad a chyfarfod un-i-un i drafod y darganfyddiadau.

Fe fydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion, ac yna fe fyddwn yn cynnal ymweliad ‘Cwsmer Dirgel’ i leoliad eich busnes. Fe fyddwch yn medru penderfynu p’un ai eich bod am gael gwybod ymlaen llaw pryd fydd yr ymweliad yn cymryd lle.

Mae cefn gwlad Cymru mor deg a’i bobl.

Ted Johns, Cadeirydd y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid

Ar ôl yr ymweliad, fe fyddwch yn cael ffurflen adborth yn amlinellu darganfyddiadau’r ymgynghorydd. Yna, byddwch yn cael ymweliad gan yr ymgynghorydd i drafod y darganfyddiadau ac argymhellion ar gyfer y dyfodol, i sicrhau gwelliant.

Os fyddwch yn penderfynu mynychu cyrsiau gofal cwsmeriaid o ganlyniad i argymhellion yr ymgynghorydd, fe fydd Gallu yn gallu trefnu’r rhain ar gyfer eich busnes.

Yn fuan wedi’r ymweliad, fe fyddwn yn anfon ffurflen werthuso atoch, yn gofyn am eich adborth ar ymweliad y Cwsmer Dirgel a hefyd yr hyn y mae Gallu yn gallu ei wneud i’ch helpu chi yn y dyfodol.

Fe fyddwn yn anfon ffurflen ‘ticio’r blwch’ arall atoch dri mis wedi’r ymweliad, i weld sut mae’ch busnes wedi gweithredu’r argymhellion a gafwyd gan yr ymgynghorydd, a hefyd i werthuso’r hyfforddiant gofal cwsmeriaid a gafwyd gan Gallu o ganlyniad i’r profiad Cwsmer Dirgel.

Os hoffech chi gymryd rhan yn ‘Gofal’ , a wnewch chi lenwi’r ffurflen ganlynol:

Ble bynnag yr ydw i wedi bod yn Ne Orllewin Cymru, rydw i wastad wedi cael profiadau cwsmer positif, boed gan siopau, bwytai neu westai - a hyd yn oed gan yrwyr tacsi, sydd ddim fel arfer yn nodedig am eu hymddygiad cwrtais a chymwynasgar, yn enwedig yn yr ardal ble’r ydw i’n byw fel arfer (gogledd Hampshire).

Ted Johns, Cadeirydd y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid

   

 

 

 

 

PembrokshireCarmarthenshireSwanseaNeath Port Talbot Developing People in Tourism Request it hereCymraeg