Syniadau i Fyfyrwyr at Ddibenion Ymchwilio

Nod y dudalen hon yw helpu myfyrwyr syn astudio twristiaeth a busnes. Mae’n dangos gwefannau a strategaethau defnyddiol a allai helpu myfyrwyr yn eu gwaith ymchwil ar gyfer eu cwrs.

Strategaethau ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol:

Cynllun Gofodol Cymru

Un o egwyddorion sylfaenol y Cynllun Gofodol yw bod gwahanol rannau o Gymru yn profi gwahanol gyfleoedd a heriau.

Roedd Cynllun 2004 felly’n trawsnewid yr amcanion cenedlaethol yn weledigaethau ar gyfer chwe Ardal benodol yng Nghymru. Fe fydd y gweledigaethau’n llunio’r ffordd y bydd pob Ardal yn datblygu’n economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.

Dyma chwe ardal Cynllun Gofodol Cymru:

  • Gogledd Orllewin Cymru – Eryri a Môn
  • Gogledd Ddwyrain Cymru – Y Gororau a’r Arfordir
  • Canol Cymru
  • De Ddwyrain Cymru – Rhwydwaith y Brifddinas
  • Bae Abertawe – Y Glannau a Chymoedd y Gorllewin
  • Sir Benfro – Yr Hafan

I’w Lawrlwytho:

Cymru: Gwlad Well - agenda strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Cymru: Gwlad Well yn agenda i roi cyfeiriad ffres i bawb sy’n cydweithio er lles Cymru a’r tair miliwn o bobl sy’n byw ynddi.

Mae Cymru: Gwlad Well yn nodi:

  • gweledigaeth arweiniol ar gyfer gwlad decach, fwy llewyrchus, iachach wedi’i haddysgu’n well, a’i gwreiddiau yn ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, ac i sicrhau bod creu iechyd a chyflogaeth mewn ffordd gynaliadwy wrth galon ein prosesau creu polisïau;
  • agenda radical ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gyda rhaglen ar gyfer trosglwyddo ymrwymiadau’r maniffesto;
  • y materion sy’n flaenoriaeth, sy’n ehangach nag unrhyw un adran o’r llywodraeth, a ble mae cydweithio a gweithio’n gallach yn gallu cael effaith mwy a hirach; a
  • y ffordd yr ydym am drosglwyddo ar y cyd gyda’n partneriaid mewn llywodraeth leol, busnes, yr undebau llafur a’r sector gwirfoddol.

Mae’r agenda hwn yn gosod her i bawb sy’n gysylltiedig â dyfodol Cymru. Gyda datganoli, mae ein ffawd o ran iechyd, cyfoeth, addysg, yr amgylchedd a’r agenda domestig ehangach, fwyfwy yn ein dwylo ni.

I’w Lawrlwytho:

Cymru’n Un 2007 - 2011

Mae’r cynllun yn dilyn fformat a threfn Cymru’n Un ac yn mynd law yn llaw gyda’r wybodaeth a gyhoeddir ynghylch y gyllideb. Mae ‘Cymru’n Un’ yn rhoi gwybodaeth syml ynghylch y ffordd y bydd pob un o ymrwymiadau’r llywodraeth yn cael eu trosglwyddo a phryd yr ydym yn disgwyl eu gweld yn dod i rym, gan gynnwys cerrig milltir pwysig ar gyfer eu trosglwyddo.

Mae gan bob adran yn y cynllun ragair sy’n cynnwys datganiad o weledigaeth gryno, sy’n disgrifio’r newidiadau yr ydym am eu gweld, a sut fydd llwyddiant yn edrych.

I’w Lawrlwytho:

Cymru: Economi yn Ffynnu

Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru weledigaeth o economi sy’n ffynnu i Gymru, un sy’n trosglwyddo twf economaidd cryf a chynaliadwy trwy ddatblygu cyfleoedd i bawb. Mae’r ymagwedd ar gyfer gwireddu’r weledigaeth hon wedi’i hadeiladu o amgylch y cryfderau wrth graidd Cymru: gweithlu mwy sy’n fwy medrus, arloesol ac entrepreneuraidd; sylfaen dechnoleg a gwybodaeth ddatblygedig; cymunedau cryfion; amgylchedd naturiol trawiadol; ac ansawdd bywyd rhagorol. Fe fydd yr amrywiaeth gynyddol o bwerau, cadwyni penderfynu byr, partneriaethau agos, gwybodaeth leol a pharodrwydd i ymgysylltu yn helpu adeiladu mantais gystadleuol gryfach i Gymru.

Dyma gynnwys y ddogfen hon:

  • Ein Hagenda Datblygu Economaidd 5
  • Sicrhau Twf Economaidd Cryf a Chynaliadwy 7
  • Crynodeb Gweithredol 9
  • Pennod 1 Twf Economaidd Cynaliadwy 21
  • Pennod 2 Cyflogaeth ac Anweithgarwch Economaidd 31
  • Pennod 3 Enillion a Thwf Busnesau 39
  • Pennod 4 Cyflawni’r Fframwaith 61
  • Pennod 5 Asesu Cynnydd 67
  • Atodiad A Dadansoddiad Cefndirol: Cyflogaeth 71
  • Atodiad B Dangosyddion Olrhain Datblygu Economaidd 79
  • Atodiad C Hynt yn Erbyn Targedau Cymru’n Ennill 81
  • Atodiad D Cwestiynau’r Ymgynghoriad 83
  • Atodiad E Manylion Cyswllt 85
  • Atodiad F Asesiad yr Offeryn Integreiddio Polisi 87
  • Atodiad G Troednodiadau 89

I’w Lawrlwytho:

Cyflawni Ein Potensial

Mae’r strategaeth hon, sydd wedi ei diweddaru, yn mynd law yn llaw gyda’r blaenoriaethau yn Cymru: Economi yn Ffynnu - y strategaeth datblygu economaidd ddiwygiedig a gyhoeddwyd yn ddiweddar - ac mae’n ei chefnogi.

Yn benodol, mae’n ceisio adnabod y blaenoriaethau ar gyfer twristiaeth yng Nghymru yn y dyfodol ac yn gosod cynllun gweithredu realistig i annog ymateb partneriaeth effeithiol gan y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Wedi i Fwrdd Croeso Cymru uno gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Ebrill 2006, gwelwyd cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth fwy cydlynol i’r diwydiant twristiaeth gan y llywodraeth, i ysgogi twf a llwyddiant cynaliadwy yn ystod y cyfnod sy’n cael sylw gan y strategaeth hon.

I’w Lawrlwytho:

Cynllun Gweithredu Arloesi

Arloesi, fel yr ydym yn ei ddiffinio yn y cynllun gweithredu hwn, yw’r ffordd lwyddiannus, fasnachol o ecsbloetio syniadau newydd. Mae’n sbardun pwysig ar gyfer cynhyrchedd. Mae ffactorau allanol eraill yn effeithio ar gynhyrchedd a phroffidioldeb, ond mae arloesi yn cynhyrchu mantais gystadleuol ac yn hybu twristiaeth gynaliadwy, gyda’r holl bethau y mae hynny yn ei olygu yn nhermau mwy o swyddi â gwerth ychwanegol a mwy o lewyrch wedi’i gynnal yn well. Mae ei gofleidio er lles clir busnesau o bob math.

Mae ‘Cymru o Blaid Arloesi’ yn gosod yn fwy manwl sut mae elfennau arloesol ‘Cymru’n Ennill’ yn gallu cael eu trosglwyddo gan fusnesau, ac ar eu cyfer.

I’w Lawrlwytho:

Strategaeth Twristiaeth Ddiwylliannol

Mae’r strategaeth yn darparu fframwaith gweithredu gan Groeso Cymru a phartneriaid yn y diwydiannau twristiaeth a diwylliannol fel bod gwell cyfle i ymwelwyr i Gymru brofi agweddau amrywiol diwylliant Cymru. Mae gan y strategaeth y weledigaeth ganlynol:

‘Cydnabyddir Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr, gan gynnig profiad twristiaeth ddiwylliannol o safon uchel ar sail ei diwylliant unigryw, sy’n rhan hanfodol o’r profiad twristiaeth ar y cyfan.’

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, cynigir pedair rhaglen integredig:

  • Gwella hygyrchedd ymwelwyr i ddiwylliant Cymru
  • Gwella ansawdd y weledigaeth
  • Codi proffil Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth ddiwylliannol
  • Deall nodweddion ac anghenion twristiaeth ddiwylliannol

I’w Lawrlwytho:

Tourism Trends

I’w Lawrlwytho:

Croeso Cymru

www.visitwales.com

Mae’r swyddogaethau yr oedd Bwrdd Croeso Cymru yn arfer ymgymryd â nhw bellach wedi cael eu trosglwyddo at Groeso Cymru - tîm twristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Symudwyd y cynnwys ar y wefan hon at wefan newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n well gwefan.

Prif rôl Croeso Cymru’ yw darparu arweiniad a chyfeiriad strategol ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae Croeso Cymru wedi arwain y broses o baratoi cyfres o strategaethau twristiaeth cenedlaethol tymor canolig - dogfennau polisi allweddol sy’n nodi ymatebion effeithiol i’r prif heriau y mae twristiaeth yn eu hwynebu yng Nghymru. Mae’r strategaethau hyn yn diffinio gweledigaeth ar gyfer twristiaeth, yn sefydlu blaenoriaethau ar gyfer gweithredu mewn partneriaeth ac yn gosod targedau ar gyfer twf.

Dyma wefan ymwelwyr Cymru, ac mae’n rhoi gwybodaeth i bobl ynghylch Cymru a thwristiaeth yng Nghymru, er enghraifft ble i aros, ble i fwyta a’r atyniadau.

Cyngor Sir Gâr

www.carmarthenshire.gov.uk

Dyma wefan Cyngor Sir Gâr ac mae’n rhoi gwybodaeth ar Sir Gâr, er enghraifft datganiadau i’r wasg, newyddion am bethau sy’n digwydd yn Sir Gâr, twristiaeth, materion amgylcheddol, busnes ac adfywio, datblygu cymunedol, nawdd, swyddi, ystadegau, strwythur y cyngor ac addysg a dysgu.

Strategaethau Cyngor Sir Gâr:

Cysylltiadau yn Sir Gaerfyrddin – Strategaeth ar gyfer Ffyniant

Mae Cysylltiadau yn Sir Gaerfyrddin yn mapio strategaeth ar gyfer y Sir ar gyfer y cyfnod hyd at 2015, ac mae’n dangos sut fydd pob partner yn cydweithio i wneud Sir Gâr yn ardal o gyfleoedd a thwf economaidd mawr.

Strategaeth Datblygu’n Gynaliadwy

Website

Yn 2004 fe gynhyrchodd Cyngor Sir Gâr ei adroddiad cyntaf yn amlinellu ei “lwyddiannau Datblygu’n Gynaliadwy”.

Ers hynny, mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Datblygu’n Gynaliadwy sy’n nodi bod DG yn egwyddor ganolog ar gyfer holl waith y Cyngor ac y bydd ond yn rhan o gamau gweithredu sy’n cyfrannu at DG.

Mae’r cyngor hefyd wedi cynhyrchu Strategaeth Datblygu’n Gynaliadwy gyda Chynllun Gweithredu blynyddol i sicrhau ei fod yn trosglwyddo ei amcanion datblygu’n gynaliadwy.

I’w Lawrlwytho:

Cyngor Sir Penfro

www.sir-benfro.gov.uk

Ar wefan Cyngor Sir Penfro, ceir yr un manylion ag sydd ar wefan Cyngor Sir Gâr ond eu bod yn ymwneud â’r hyn sy’n digwydd yn Sir Benfro.

Strategaethau ar gyfer Cyngor Sir Penfro:

Cynllun Adfywio Abergwaun a Gogledd Sir Benfro

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cymryd yr awenau o ran integreiddio gwaith ei asiantaethau a’r awdurdod lleol i sicrhau bod effeithiau busnesau’n cau yn cael cyn lleied o effaith â phosib ar yr economi lleol, ac i uchafu cyfleoedd i dyfu yn y dyfodol.

Mae swyddogion Llywodraeth y Cynulliad ac asiantaethau’r Cynulliad wedi gweithio gyda Chynghorau Sir Penfro a Cheredigion i adolygu cynlluniau a strategaethau lleol ac i ffocysu ymdrechion ar greu sylfaen gynaliadwy ar gyfer cyflogaeth.

I’w Lawrlwytho:

Y Cynllun Cymunedol ar gyfer Sir Benfro

Mae Partneriaeth Arweiniad a Chynllun Cymunedol Sir Benfro, a arweinir gan Gyngor Sir Penfro, wedi bod yn datblygu’r Cynllun Cymunedol cyntaf ar gyfer Sir Benfro ers 2000. Cyhoeddwyd y drafft cyntaf er mwyn ymgynghori’n gyhoeddus arno, yn Ionawr 2003. Y cynllun hwn yw’r cynllun trosfwaol ar gyfer Sir Benfro, ac fe’i cefnogir gan amrywiaeth eang o gynlluniau a strategaethau mwy manwl. Mae’n canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd pobl Sir Benfro.

Y Cynllun Cymunedol ar gyfer Sir Benfro

Cynllun Corfforaethol a Gwella Cyngor Sir Penfro

Datblygwyd y Cynllun Corfforaethol a Gwella fel rhan o Raglen Gwella Cymru. Y prif ddiben yw adolygu perfformiad diweddar, gosod targedau ac yna’u monitro. Mae hefyd yn cynnwys gosod amcanion pwysig ar gyfer y dyfodol a pharatoi cynllun gwella i’w weithredu.

Cynllun Corfforaethol a Gwella Cyngor Sir Penfro

Y Cydgynllun Datblygu Unedol ar gyfer Sir Benfro

Mabwysiadwyd y CDU ar 13 Gorffennaf 2006 fel y Cynllun Datblygu ar gyfer y Sir, gan gymryd lle’r Cynlluniau Lleol a Strwythur cynharach.

I’w Lawrlwytho:

Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Mae Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn:

  • cyflwyno gweledigaeth ar gyfer dyfodol y Parc Cenedlaethol
  • gosod amcanion a thargedau, gan adlewyrchu dibenion y Parc Cenedlaethol, er mwyn cyflawni’r weledigaeth honno
  • adrodd ar y sefyllfa gyfredol
  • nodi cyfleoedd a bygythiadau mewn perthynas â chyflawni amcanion
  • nodi rolau partneriaid presennol, a phartneriaid posib, wrth gyflawni amcanion
  • cynnwys prosiectau a mentrau pwysig sydd ar y gweill ar hyn o bryd

Mae’n cymryd lle ‘Cynllun y Parc Cenedlaethol: Ail Adolygiad ar gyfer y Cyfnod 1994-1999’. Mae Cynlluniau Rheoli’r Parciau Cenedlaethol wedi eu hanelu at fudiadau sy’n gysylltiedig â rheolaeth bob dydd y Parc Cenedlaethol a’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau. Ond mae’r broses gynllunio’n ceisio cynnwys pob un sydd â diddordeb neu fudd yn rheolaeth y Parc Cenedlaethol.

Fe fydd Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yn mynd law yn llaw gyda’r Cynllun Cymunedol ar gyfer Sir Benfro, ac fe fydd y ddau’n tynnu ar amcanion ‘Cynllun Cymru’ Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn cyfrannu’n uniongyrchol atynt a Chynllun Cymru a strategaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Datblygu’n Gynaliadwy.

I’w Lawrlwytho:

Dinas a Sir Abertawe

www.abertawe.gov.uk

Mae gwefan Cyngor Dinas a Sir Abertawe yr un peth â gwefannau Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Penfro ond eu bod yn rhoi gwybodaeth ynghylch datblygiadau yn Abertawe.

Strategaethau ar gyfer Cyngor Dinas a Sir Abertawe:

Strategaeth Bae Abertawe

Fe fydd y strategaeth hon yn ystyried amrywiaeth o gyfleoedd datblygu a hefyd gwelliannau i’r amgylchedd a’r seilwaith.

Strategaeth Bae Abertawe

Strategaeth Adfywio

Mae’r strategaeth hon yn edrych ar y cynlluniau adfywio ar gyfer Abertawe.

Strategaeth Adfywio

I’w Lawrlwytho:

Strategaeth Gymunedol Abertawe

Diben ‘Mae Uchelgais yn Hollbwysig – Strategaeth Gymunedol Abertawe’ yw adeiladu ar gryfderau Abertawe i’w wneud yn lle gwell eto.

Fe’i cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2004, ac mae’n cynnwys y weledigaeth ar gyfer Abertawe yn 2020 ac yn dangos sut mae pob un yn cydweithio dros well Abertawe.

Strategaeth Gymunedol Abertawe

I’w Lawrlwytho:

Gwefannau

Llywodraeth Cynulliad Cymru

www.wales.gov.uk

Dyma wefan y Cynulliad Cenedlaethol a gellir ei defnyddio i edrych ar strategaethau sydd mewn lle gan y llywodraeth ar hyn o bryd, unrhyw grantiau/nawdd sydd ar gael i fusnesau y bydd myfyrwyr, efallai, yn ymchwilio iddynt, unrhyw ddatblygiadau yng Nghymru, newyddion am y diwydiant twristiaeth, datganiadau i’r wasg sydd ar gael, dogfennau sydd o ddiddordeb i dwristiaeth a thueddiadau’r farchnad yng Nghymru.

Visit Britain

www.visitbritain.com

Mae’r wefan i ymwelwyr Prydain yn rhoi gwybodaeth am Brydain a thwristiaeth yn y wlad, er enghraifft y newyddion, cyrchfannau i aros, llety sydd ar gael, pethau i’w gweld a’u gwneud, teithio a thrafnidiaeth, digwyddiadau a datganiadau i’r wasg a gyhoeddwyd.

Cyngor Prydain

www.britishcouncil.org

Dyma wefan Cyngor Prydain sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig, nawdd ar gyfer astudiaethau, newyddion am yr hyn y mae’r cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd, sut maen nhw’n cefnogi rhaglenni dysgu a hyfforddiant, strategaethau’r llywodraeth, ffeithiau a ffigurau a chreu partneriaethau gyda busnesau eraill.

BBC

www.bbc.co.uk

Dyma wefan ddefnyddiol i ddarganfod beth sy’n digwydd yn y byd, oherwydd mae’n rhoi’r newyddion diweddaraf, gwybodaeth am addysg, ystadegau’r llywodraeth, newyddion am dwristiaeth, busnesau, nawdd, hanes testunau penodol ac iechyd.

BERR

www.berr.gov.uk

Dyma’r adran ar gyfer busnes, arloesi a diwygio rheoleiddio. Mae BERR yn helpu sicrhau llwyddiant busnesau mewn byd sy’n dod yn fwy a mwy cystadleuol. BERR yw’r llais i fusnesau ar draws y Llywodraeth.

Mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth ynghylch blaenoriaethau a pholisïau BERR. Mae BERR a’i bartneriaid trosglwyddo hefyd yn darparu cymorth ymarferol amrywiol i fusnesau:

  • Business Link - cyngor ar sut i ddechrau, rhedeg neu dyfu busnes.
  • UK Trade & Investment - am help i ymestyn eich busnes dramor, neu leoli eich busnes yn y Deyrnas Unedig.
Dolenni pwysig:

Business Eye

www.businesseye.co.uk

Business Eye yw’r prif gylchgrawn busnes sy’n gwasanaethu’r farchnad yng Ngogledd Iwerddon. Mae wedi’i anelu at ddarllenwyr sy’n uwch reolwyr, ar draws y sbectrwm o fusnesau yng Ngogledd Iwerddon, Iwerddon a thu hwnt, Mae Business Eye wedi sefydlu enw da am ei ansawdd, ei arddull a’i gynnwys.

Mae’r cylchgrawn yn cael ei ysgrifennu a’i gynhyrchu i apelio at y gynulleidfa fusnes ehangaf posib - o berchnogion/rheolwyr busnesau bach i fudiadau mawr a’r sector cyhoeddus. Mae’n rhoi golwg ar y newyddion ynghylch sefydliadau a’u cyfeiriad strategol.

Tourism Concern

www.tourismconcern.org.uk

Mae Tourism Concern yn elusen nid-am-elw yn y Deyrnas Unedig, sy’n brwydro yn erbyn ecsbloetio mewn twristiaeth. Mae’r sefydliad yn chwarae rhan bwysig wrth hybu dulliau twristiaeth sy’n cynnig manteision ystyrlon i bobl yng nghymunedau cyrchfannau. Eu rôl nhw yw dinoethi’r enghreifftiau gwaethaf o gamddefnyddio hawliau dynol mewn twristiaeth, ac i ymgyrchu yn eu herbyn. Mae’r wefan hon yn llawn gwybodaeth y gall myfyrwyr twristiaeth ei defnyddio yn eu hymchwil i dwristiaeth, gyda materion fel effeithiau cymdeithasol/diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol ar gyrchfannau, y berthynas rhwng y lleoliad a thwristiaeth, cynaliadwyedd ac arferion moesegol.

SPRIG

www.sprig.org.uk/htfo/htfotourism.html

Mae SPRIG yn fudiad sy’n hybu ffynonellau gwybodaeth mewn lletygarwch hamdden, chwaraeon a thwristiaeth.

Nod y llawlyfr hwn yn bod yn gyflwyniad cyffredinol iawn i lenyddiaeth Twristiaeth ac fe fydd yn tynnu sylw at rai o’i brif destunau ac adnoddau, fel llyfrau, cylchgronau, mudiadau, abstractau a mynegai, cyhoeddwyr, ffynonellau cyfeirio, adnoddau ar y we, pyrth i destunau, traethodau estynedig a theses, Gwyddoniaduron a Geiriaduron, cynadleddau a llyfrgelloedd. Mae wedi’i anelu at fyfyrwyr israddedig ac uwch.

GDRC

http://www.gdrc.org/uem/eco-tour/eco-tour.html

Ar y wefan hon, mae yna lawer o ddogfennau sy’n ymwneud â thwristiaeth gynaliadwy ac eco-dwristiaeth, fel Offerynnau ar gyfer Datganiadau, Siarterau a Chodau, Strategaethau a Rhestrau Gwirio, Dogfennau ac Adroddiadau, Sefydliadau, Rhwydweithiau a Mentrau, Adnoddau ar y We ar gyfer Eco-Dwristiaeth a Chylchgronau.

Adran y Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon

www.culture.gov.uk

Mae’r sefydliad hwn yn gyfrifol am bolisïau’r Llywodraeth ar y celfyddydau, chwaraeon, y Loteri Genedlaethol, twristiaeth, llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac orielau, darlledu, diwydiannau creadigol gan gynnwys y diwydiant ffilm a cherddoriaeth, rhyddid y wasg a rheoleiddio, trwyddedu, gamblo a’r amgylchedd hanesyddol. Yn ychwanegol at hyn, mae’r wefan yn cynhyrchu gwybodaeth ar restru adeiladau hanesyddol a chofrestru henebion, trwyddedau ar gyfer allforio nwyddau diwylliannol, rheoli Casgliad Celf y Llywodraeth a’r Asiantaeth Parciau Brenhinol.

Ym Mai 2005, ymestynnwyd eu dolenni presennol i gynnwys y diwydiannau creadigol wedi iddynt gymryd y cyfrifoldeb dros gynllunio ffasiwn, hysbysebu a’r farchnad celfyddydau gan yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR).

I’w Lawrlwytho:

Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr

www.visit-carmarthenshire.co.uk

Mae’r wefan hon yn dangos i dwristiaid ble i aros, ble i fwyta, ble i fynd, pa weithgareddau sydd ar gael, pa ddigwyddiadau sydd ymlaen a pha ddeliau sydd gan fusnesau ar gyfer eu cwsmeriaid potensial. Mae gan y sefydliad gynigion arbennig, gwyliau pecyn, diwrnodau allan a’r newyddion diweddaraf am faterion sy’n digwydd yn Sir Gâr.

Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr sy’n rhedeg y wefan hon ac mae’n helpu busnesau, cyflenwyr a chymunedau sy’n aelodau i gael eu gwybodaeth ar y wefan, er mwyn i dwristiaid, boed yn lleol neu ymhell i ffwrdd, gael gweld beth sydd i’w gynnig yn Sir Gâr.

Pembrokeshire Tourism

www.holiday-pembrokeshire.co.uk

Ar y wefan hon, ceir yr un wybodaeth â gwefan Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr ond ei fod yn ymwneud â Sir Benfro. Caiff ei rhedeg gan Pembrokeshire Tourism sydd unwaith eto yn helpu busnesau, cyflenwyr a chymunedau lleol sy’n aelodau i gael eu gwybodaeth ar y wefan er mwyn i dwristiaid weld beth sydd i’w gynnig yn Sir Benfro.

Mae gan y sefydliad gynigion arbennig hefyd, yn ogystal â gwyliau pecyn, diwrnodau allan a’r newyddion diweddaraf ynghylch pethau sy’n digwydd yn Sir Benfro. Mae’r wefan yn cynnwys sylwadau ar y tywydd, digwyddiadau ac adroddiadau traffig yn Sir Benfro, gan ddweud wrth bobl os oes angen teithio ar hyd heolydd gwahanol a beth i’w wneud os yw’r tywydd yn wael.

Twristiaeth Bae Abertawe

www.tourismswanseabay.co.uk

Mae’r wefan hon yn debyg i wefan Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr a Pembrokeshire Tourism oherwydd mae’n rhoi gwybodaeth i dwristiaid ynghylch ble i aros, ble i fwyta, ble i fynd, pa weithgareddau sydd ar gael, pa ddigwyddiadau sydd ymlaen a pha ddeliau sydd gan fusnesau ar gyfer eu cwsmeriaid potensial. Er enghraifft, llety, tafarndai, bwytai, manwerthu, carafanio a gwersylla, celf a chrefft, atyniadau, diwylliant a threftadaeth, gweithgareddau a gwasanaethau proffesiynol.

Mae gan y sefydliad gynigion arbennig hefyd, yn ogystal â gwyliau pecyn, diwrnodau allan a’r newyddion diweddaraf ynghylch pethau sy’n digwydd ym Mae Abertawe. Twristiaeth Bae Abertawe sy’n rhedeg y wefan.

 

Pembrokshire Carmarthenshire Swansea Neath Port Talbot Developing People in Tourism Request it here Cymraeg