Tîm Gallu
Lisa Johnston - Cydlynydd Datblygu Adnoddau Dynol De Orllewin Cymru
|
Gallu, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, SA32 8HG |
|
Aeth Lisa ati greu Gallu o ganlyniad i Fid Ewropeaidd a bu’n gydlynydd y prosiect trwy gydol ei oes. Gyda dros 1300 o bobl a 580 o fusnesau’n cymryd rhan yn y prosiect, bu’n gynllun hynod boblogaidd a llwyddiannus dros ben. Gyda dros 13 o flynyddoedd o brofiad o weithio yn y sector twristiaeth, mae gan Lisa doreth o wybodaeth a phrofiad i’w gynnig i’r swydd. Ar ôl bod yn gydlynydd llwyddiannus Gallu a phrosiectau NAPTA ac yn gweithio mewn nifer o’r rolau gwahanol sydd gan ein sector i’w cynnig, mae Lisa’n ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu’r sector twristiaeth. Mae gan Lisa ddealltwriaeth dda o’r diwydiant a’r byd addysg gan iddi fod yn ddarlithydd yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Glan Hafren yng Nghaerdydd. Bydd Lisa’n gweddu’n berffaith i’w r ô l newydd fel Uwch Gydlynydd HRD yn Ne Orllewin Cymru. |
|
Lowri Edwards - Cydlynydd Datblygu Adnoddau Dynol De Orllewin Cymru
|
Gallu, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, SA32 8HG |
|
Mae Lowri wedi gweithio fel hwylusydd prosiect am bron i dair blynedd ac roedd yn gyfrifol am Siroedd Caerfyrddin a Phenfro ac yn ddiweddar newidiodd ei swydd i fod yn Gydlynydd HRD ar gyfer y De Orllewin. Ers graddio yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd gyda gradd BA (Anrhydedd) mewn Rheoli Twristiaeth. Adloniant a Hamdden, mae Lowri wedi ennill profiad gwerthfawr ac mae wedi meithrin perthynas dda gydag aelodau’r sector, a datblygwyd y cysylltiadau hyn o ganlyniad i’r gwaith y mae wedi ei wneud gyda Gallu a Chyngor Sir Caerfyrddin cyn hynny ac fel Swyddog Prosiect a oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r wefan tourlink ar gyfer Cymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin. Mae Lowri’n edrych ymlaen at her ei swydd newydd a hefyd at feithrin a datblygu cysylltiadau newydd ar draws y rhanbarth. |
|

