Mae Cynllun Cwsmer Dirgel ‘Gofal’ yn fenter newydd a sefydlwyd gan Gallu, i helpu busnesau i ddatblygu gofal cwsmeriaid o fewn eu busnes, a’i wella.
Fe fydd yr Ymweliad Dirgel yn canolbwyntio ar y Gofal Cwsmeriaid yr ydych yn ei gynnig i’ch gwesteion ac yn edrych ar y gwasanaeth yr ydych chi a’ch staff yn ei gynnig.
The cost of the Mystery Visit is £75 for Tourist Association members and due to administrations costs rises to £120 for non Tourist Association members. This is still excellent value, the recommended retail price for this initiative exceeds £450. For your payment of £75.00 or £120 respectively you will receive one to one, face to face feedback on how to move forward following a telephone enquiry a brief review of your website and a visit.
Fe fydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion, ac yna fe fyddwn yn cynnal ymweliad ‘Cwsmer Dirgel’ i leoliad eich busnes. Fe fyddwch yn medru penderfynu p’un ai eich bod am gael gwybod ymlaen llaw pryd fydd yr ymweliad yn cymryd lle.
Ar ôl yr ymweliad, fe fyddwch yn cael ffurflen adborth yn amlinellu darganfyddiadau’r ymgynghorydd. Yna, byddwch yn cael ymweliad gan yr ymgynghorydd i drafod y darganfyddiadau ac argymhellion ar gyfer y dyfodol, i sicrhau gwelliant.
Os fyddwch yn penderfynu mynychu cyrsiau gofal cwsmeriaid o ganlyniad i argymhellion yr ymgynghorydd, fe fydd Gallu yn gallu trefnu’r rhain ar gyfer eich busnes.
Yn fuan wedi’r ymweliad, fe fyddwn yn anfon ffurflen werthuso atoch, yn gofyn am eich adborth ar ymweliad y Cwsmer Dirgel a hefyd yr hyn y mae Gallu yn gallu ei wneud i’ch helpu chi yn y dyfodol.
Fe fyddwn yn anfon ffurflen ‘ticio’r blwch’ arall atoch dri mis wedi’r ymweliad, i weld sut mae’ch busnes wedi gweithredu’r argymhellion a gafwyd gan yr ymgynghorydd, a hefyd i werthuso’r hyfforddiant gofal cwsmeriaid a gafwyd gan Gallu o ganlyniad i’r profiad Cwsmer Dirgel.
Os hoffech chi gymryd rhan yn ‘Gofal’ , a wnewch chi lenwi’r ffurflen ganlynol:
Design © Cwdos | Gallu. All rights reserved.
Top Desktop version