Gallu: Training and Development for Tourism

Switch to desktop Register Login

Pwy yw pwy mewn twristiaeth? – Cymru a’r Deyrnas Unedig

Y Deyrnas Unedig

Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS)

www.culture.gov.uk/tourism

Yn gyfrifol am gefnogi’r diwydiant twristiaeth ar lefel genedlaethol, ac am osod cefnogaeth ranbarthol a lleol ar gyfer y sector mewn cyd-destun strategol.

Roedd dogfen o’r enw Tomorrow's Tourism yn gosod ein hymagwedd strategol ar gyfer cwrdd ag anghenion cwsmeriaid y sector twristiaeth, a’i nodau ar gyfer annog diwydiant llewyrchus sy’n tyfu. I adeiladu ar hyn, yng Ngorffennaf 2004, cyhoeddwyd Tomorrow's Tourism Today - prosbectws ar gyfer datblygu twristiaeth mewn pum maes allweddol, gan nodi cyfrifoldebau a chamau gweithredu mudiadau’r sector cyhoeddus a phreifat ym meysydd allweddol marchnata, ansawdd, sgiliau a data. Mae DCMS yn goruchwylio Visit Britain.

Visit Britain

Visit Britain (Awdurdod Twristiaeth Prydain gynt) sydd â’r dasg o hybu Prydain ymhlith marchnadoedd tramor. Mae hefyd yn hybu Lloegr ymhlith marchnadoedd y Deyrnas Unedig. Nid yw’n gwneud unrhyw beth â marchnata Cymru yn y Deyrnas Unedig.

Penodir Aelodau Bwrdd VisitBritain gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn unol ag amodau Deddf Datblygu Twristiaeth 1969. Mae’r Ddeddf yn rhoi darpariaeth i’r Bwrdd gynnwys Cadeirydd a hyd at bum aelod arall, yn ogystal â Chadeiryddion VisitScotland, Panel Cynghori ar Dwristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Bwrdd Cynghori ar Farchnata Lloegr, gan weithredu yn rhinwedd eu swyddi. Mae Cadeiryddion Bwrdd Twristiaeth Gogledd Iwerddon a Visit London hefyd yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd fel sylwedyddion, trwy wahoddiad gan Gadeiryddion VisitBritain.

I’r rhan fwyaf o gwmnïau gweithredu, ni fydd y ‘cynnyrch’ neu’r cyfleoedd a gynigir gan adran dramor Visit Britain yn berthnasol onid ydych yn darparu ar gyfer math penodol o gwsmer fel y rheiny sy’n dod o dramor i deithio o amgylch y wlad gyda’u gwarbac.

Mae gan Visit Britain 27 swyddog dramor, ond y rheiny a fydd fwyaf tebygol o fod o ddiddordeb i fusnesau De Orllewin Cymru, fydd yn rhai sydd yn Nulyn, Amsterdam, Brwsel, Frankfurt, Berlin a Pharis. Fe fydd pob swyddfa dramor yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys arddangos a phostio taflenni.

Gwefan fasnach (www.tourismtrade.org.uk) gyda manylion cyswllt, gwybodaeth a manylion yr ymgyrch; mae gan y wefan ffeithiau a ffigurau defnyddiol hefyd. Mae gwefan gorfforaetholwww.visitbritain.org.Mae gwefan Visit Britain i ddefnyddwyr yn www.visitbritain.com

Wales

Croeso Cymru

Daeth Croeso Cymru i fodolaeth ar 1 Ebrill 2006 fel rhan o Adran Menter a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Croeso Cymru yn cymryd lle Bwrdd Croeso Cymru. Mae gan Croeso Cymru wefan wych ar gyfer y fasnach dwristiaeth, new.wales.gov.uk/topics/tourism, sy’n darparu amrywiaeth o wybodaeth o raddio, argaeledd grantiau ac ymgyrchoedd marchnata cyfredol i ymchwil a chyngor.

Mae gan Groeso Cymru dîm o gynghorwyr sy’n gallu helpu datblygu busnesau a chynnig cyngor ar destunau fel marchnata, materion hygyrchedd ac e-fasnach. Mae gan Groeso Cymru amrywiaeth o grantiau cyfalaf ar waith. Edrychwch o dan 'cynlluniau’ yn yr adran 'buddsoddi yn eich busnes'.

Mae Croeso Cymru yn gweithredu gwefan Croeso Cymru i ddefnyddwyr (www.visitwales.co.uk) a desg wybodaeth yng Nghanolfan Deithio Prydain ar Regent Street yn Llundain.

Erbyn hyn, mae Awdurdod Datblygu Cymru gynt hefyd yn rhan o Adran Menter a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r swyddfa ranbarthol ar gyfer De Orllewin Cymru yn: Llys-Y-Ddraig, Parc Busnes Penllergaer, Abertawe SA4 9HL.
new.wales.gov.uk/topics/businessandeconomy.

SWWTP

Mae Croeso Cymru hefyd yn ariannu Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol De Orllewin Cymru, sy’n cynnwys Sir Benfro, Sir Gâr, Abertawe a Chastell-nedd a Phort Talbot. Mae PTDOC yn un o 4 Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol a ddaeth i fodolaeth yn 2002. Rôl PTDOC yw datblygu ac arwain ar ddatblygiad y Strategaeth ranbarthol ‘Ar Agor Drwy’r Flwyddyn’ yn hytrach na throsglwyddo’r gwasanaethau ei hun. Mae’r manylion cyswllt ar dudalen ‘Cyswlltu’ www.swwtp.co.uk

Rôl PTDOC yw sicrhau bod polisïau a gweithgareddau cenedlaethol yn cael eu hadlewyrchu’n lleol yng nghyd-destun blaenoriaethau rhanbarthol.

Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru (TTFW)

Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru yw prif lais annibynnol y wlad ar addysg a hyfforddiant ynghylch twristiaeth ac mae’n rheolwr llinell ar brosiect Gallu.

Mae Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru yn darparu arweiniad, arweinyddiaeth a chydlyniad ar gyfer addysg a hyfforddiant twristiaeth yng Nghymru.

Mae Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru yn ymdrechu i danlinellu rôl addysg a hyfforddiant wrth sicrhau dyfodol y diwydiant.

  • Rhaid i fusnesau sydd am ffynnu fuddsoddi yn natblygiad a dyfodol eu gweithlu
  • Rhaid i gyrsiau addysg a hyfforddiant adlewyrchu anghenion y diwydiant

www.ttfw.org.uk/index.html

Rhanbarth De Orllewin Cymru

PTDOC fel uchod

Fforwm Economaidd De Orllewin Cymru

www.swwef.org

Mae’r Fforymau Economaidd Rhanbarthol yng Nghymru yn hybu tyfiant a datblygiad economaidd y rhanbarth. Maen nhw hefyd yn rheolaidd. Mae PTDOC yn eistedd ar y Fforwm yn y rhanbarth.

Awdurdodau Lleol – Sir Gâr, Dinas a Sir Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot a Sir Benfro

Mae’r 4 Awdurdod Lleol Cyngor Sir Gâr, Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd a Phort Talbot a Chyngor Sir Penfro, yn gweithio gyda PTDOC yn y rhanbarth, yn ogystal â’r 2 Barc Cenedlaethol, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog. Mae gan bob un gynrychiolwyr ar Fwrdd PTDOC – mae’r holl ddolenni cyswllt ar dudalennau Dolenni/Partneriaid PTDOC.

Mae’r Awdurdodau Lleol yn y rhanbarth yn cyfrannu’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i les y diwydiant twristiaeth a’r ymwelydd.

Mae rhai o’u cyfrifoldebau amrywiol yn cynnwys:

  • Marchnata eu hardaloedd cyrchfan
  • Ariannu a/neu reoli rhai Canolfannau Croeso allweddol (mae’r ddau uchod yn anstatudol) a hefyd;
    • Defnydd tir, cynllunio a rheoli datblygiad
    • Denu buddsoddiad o’r sector preifat
    • Defnyddio cymorth nawdd penodol i ddatblygu twristiaeth, ac i gynghori arno
    • Datblygu atyniadau i ymwelwr ac amwynderau hamdden, eu hariannu a’u rheoli
    • Darparu cyfleusterau a seilwaith twristiaeth allweddol fel parcio ceir a bysiau, toiledau cyhoeddus a chasglu sbwriel a’u cynnal a chadw
    • Swyddogaethau rheoleiddio fel y rheiny sy’n gysylltiedig ag iechyd yr amgylchedd e.e. glendid bwyd
    • Cynllunio’r rhwydwaith priffyrdd a’i weinyddu
    • Arwyddion twristiaeth
    • Rhwydwaith hawliau tramwy a llwybrau cerdded

Parciau Cenedlaethol – Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog

Mae’r Parciau Cenedlaethol yn gyfrifol am warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau (yn ardal DOC maen nhw’n cynnwys ardal gyfan Arfordir Penfro a hefyd rhan orllewinol Bannau Brycheiniog).

Mae’r Parciau’n gweithredu gwasanaethau wardeiniaid a chanolfannau ymwelwyr (a rhai Canolfannau Croeso) a hefyd yn awdurdodau lleol ynddynt eu hunain. Mae ganddynt bwerau cynllunio a dyletswydd tuag at les cymdeithasol ac economaidd trigolion, yn ogystal â chyfrifoldeb dros reoli’r amgylchedd yn eu hardaloedd.

Mae’r holl ddolenni cyswllt ar dudalennau Dolenni-Partneriaid gwefan PTDOC.

Cymdeithasau Masnach - Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr, Pembrokeshire Tourism a Thwristiaeth Bae Abertawe

Yn ogystal â’r grwpiau sectoraidd mwy o faint fel Cynghrair Twristiaeth Cymru (gweler Dolenni - Sefydliadau Twristiaeth) mae yna rwydwaith cryf o gymdeithasau masnach lleol yn y rhanbarth.

Mae pob cymdeithas (mae’r dolenni ar y tudalennau Dolenni-Partneriaid) yn cael eu cynrychioli ar hyn bryd ar fwrdd PTDOC ac yn cael nawdd craidd bob blwyddyn gan PTDOC o dan gytundeb nawdd ffurfiol. Mae’r cytundeb hwn yn nodi gwasanaethau allweddol y dylai’r diwydiant lleol fod yn eu cynnig.

Mae strategaeth ‘Ar Agor Drwy’r Flwyddyn’ yn nodi’n glir pwysigrwydd diwydiant cryf a rhwydweithiau lleol ac, fel y cyfryw, conglfaen y Cynllun Busnes blynyddol ar gyfer PTDOC oedd cydweithio’n agos gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat i ddatblygu’r tair cymdeithas – gan gynrychioli aelodaeth ranbarthol o bron i 1000 ar y cyfan, erbyn hyn.

Yn y 12 mis diwethaf, roedd hyn yn cynnwys cyfathrebu gyda’r diwydiant lleol trwy Gyfarfodydd agored a chylchlythyron, hwyluso diwrnodau a digwyddiadau masnach mewn cydweithrediad â mudiadau fel Croeso Cymru a Gallu (mae’r olaf yn gweithio mewn cydweithrediad â phob Cymdeithas) a hefyd prosiectau arbennig fel gweinyddu’r cynllun digwyddiadau bach gan ddefnyddio nawdd PTDOC.

Mae’r Cymdeithasau Masnach yn cynnig dolen hanfodol i gwmnïau gweithredu o ran rhoi’r cyfle i gael mynediad at wybodaeth, trafod materion, cymryd rhan mewn cyfleoedd marchnata arbenigol fel mentrau pecynnu a phrynu i mewn i gynlluniau cenedlaethol a chyfle i lobio a bwydo’r arena ehangach.

Dyma wefannau’r tair Cymdeithas Twristiaeth:

Enw cangen hyfforddi pob un o’r 3 Gymdeithas Twristiaeth yw Gallu, a’u gwefan yw www.gallu.org.uk

Gallu

'Gallu' yw’r Rhaglen Datblygu Pobl ar gyfer pob busnes twristiaeth yn Ne Orllewin Cymru.

Nod 'Gallu' yw cynorthwyo busnesau twristiaeth i ddiwallu unrhyw heriau datblygu busnes a hyfforddi sydd ganddynt, a’u helpu i ddod o hyd i’r atebion. Mae’r rhaglen yn uwchsgilio’r gweithlu, yn gwella ansawdd profiad yr ymwelydd ac yn yr hirdymor mae’n gobeithio gwneud y diwydiant twristiaeth yn y De Orllewin yn un mwy cystadleuol.

Mae Tîm HRD cryf Gallu yn cynorthwyo busnesau unigol i ganfod eu hanghenion hyfforddi a datblygu, ac mae’n gweithio gyda phob Cymdeithas Twristiaeth i annog busnesau i gysylltu â Gallu a buddsoddi yn natblygiad eu staff trwy gymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi, gweithdai, seminarau a dyddiau agored.

Gall Gallu eich helpu gyda’ch holl anghenion hyfforddi un ai trwy hwyluso gweithdai neu trwy eich helpu i ddod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant sy’n cynnig yr union beth sydd eich angen arnoch.

Bydd tîm Gallu hefyd yn gweithio y tu ôl i’r llenni ar ran y sector twristiaeth, gan ddylanwadu ar bobl i sicrhau bod twristiaeth yn cael ei le haeddiannol ar eu Hagenda!

Design © Cwdos | Gallu. All rights reserved.

Top Desktop version